Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiad

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi bod.

Diwrnod Piano

23 Tachwedd, 2019

Dyma gyfle gwych i bianyddion o bob cyrhaeddiad a phob oed i berfformio mewn awyrgylch gyfeillgar a chadarnhaol fel rhan o weithgareddau sy’n arwain at Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.

Cynhelir y diwrnod piano yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, Dydd Sadwrn, 23 Tachwedd o 9:30yb. Mae nifer o ddosbarthiadau (unawdol a deuawdau) ac mae croeso i bawb gymryd rhan mewn unrhyw nifer ohonynt, gyda’r pwyslais ar berfformio o flaen cynulleidfa a derbyn adborth gan y beirniaid. Bydd bob pianydd sy’n cymryd rhan yn derbyn tystysgrif llwyddiant.

Yn hytrach na gosod perfformiadau yn 1af, 2il a 3ydd, bydd y beirniaid yn dewis nifer penodol o berfformiadau sydd wedi creu argraff arnynt yn ystod y dydd i berfformio mewn cyngerdd am 4:00pm.

Cynhelir y digwyddiad hwn fel rhan o Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru.

Dysgu Mwy

Manylion

Dyddiad:
23 Tachwedd, 2019
Website:
https://www.pianofestival.co.uk

Lleoliad

Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor
College Road
Bangor, LL57 2DG United Kingdom