Gwersi Blasu Cerdd Am Ddim ym mis Mai ar gyfer pobl hŷn

Cyhoeddwyd: 16 Mai, 2017

Bydd Canolfan Gerdd William Mathias yn cynnig gwersi blasu cerddoriaeth am ddim yn ystod mis Mai 2017 ar gyfer pobl hŷn sydd yn awyddus i ailgydio mewn offeryn neu ddysgu offeryn neu’r llais o’r newydd.

Mae’r cynnig arbennig hwn yn rhan o Ŵyl y Gwanwyn a gynhelir yn genedlaethol yn ystod mis Mai. Yn ddiweddar bu’r ganolfan yn llwyddiannus gyda chais grant Gŵyl Gwanwyn sydd wedi eu galluogi i gynnig gwersi am ddim i bobl dros eu 50 oed ynghyd â chynnal cyngerdd gyda’i myfyrwyr presennol yn ystod mis Mai.

Yn ôl Elinor Bennett, un o sefydlwyr y Ganolfan Gerdd: “Mae hyn yn darparu cyfle gwych i unigolion dros eu hanner cant i ail-gydio mewn offeryn cerdd ar ôl iddyn nhw ymddeol, neu i gychwyn dysgu offeryn cerdd – neu dderbyn gwersi lleisiol – am y tro cyntaf.  Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd llawer o bobl yn cymeryd mantais o’r cynnig cyffrous hwn.”

Mae dros 45 o diwtoriaid profiadol yng Nghanolfan Gerdd William Mathias sydd yn cynnig gwersi ar ystod eang o offerynnau, yn cynnwys canu. Mae modd dysgu am yr amrywiaeth o wersi a gynigir ynghyd â archebu gwers flasu drwy ffonio Canolfan Gerdd William Mathias ar 01286 685 230.

Un sydd wedi manteisio ar y cyfle i dderbyn gwersi llais yn ddiweddar ydy Elizabeth Jones o Dalysarn. Dywedodd:

“Rwy’n cael llawer o foddhad o fod yn aelod o Gôr Hamdden Mathias, ac yn mwynhau dod at ein gilydd yn wythnosol er mwyn canu a mwynhau dan arweiniad Geraint Roberts.”

“Rwyf hefyd wedi ailgydio mewn gwersi canu – roeddwn yn arfer cael gwersi canu pan oeddwn yn bymtheg oed ymlaen, ond cefais doriad pan gychwynnais weithio, ac rwyf wedi dod yn ôl i gael gwersi canu wedi ymddeol.”

“Mae cael gwersi canu gyda Geraint wedi rhoi hyder i mi ac rwyf erbyn hyn yn meddwl am ailgydio mewn cystadlu.”

Disgybl arall sy’n mwynhau derbyn gwersi canu yn y Ganolfan ydi Huw Roberts, meddyg teulu sydd bellach wedi ymddeol ers tua pedair mlynedd. Dywedodd Huw:

“Ar ôl i mi ymddeol derbyniais y cyfle i fod yn aelod o gorau lleol. Doeddwn i heb dderbyn hyfforddiant canu o gwbl, ac felly penderfynais gychwyn gwersi canu wythnosol yn y Ganolfan Gerdd gyda Trystan Lewis.”

“Rwy’n mwynhau fy ngwersi canu yn fawr – ac yn teimlo’n lwcus iawn o gael athro hynod amyneddgar a phrofiadol.”

Mae derbyn gwersi sielo yn rhan bwysig o fywyd Sioned Huws o Gaernarfon. Dywedodd:

“Mae cerddoriaeth yn golygu andros o lot i fi – mae’n codi fy nghalon ac yn helpu i gael gwared o ddiflastod weithiau.”

Mae Sioned yn derbyn gwersi unawdol gyda Nicki Perace ynghyd â bod yn rhan o Ensemble Sielo Oedolion CGWM.

Ynghyd ag annog pobl i ailgydio mewn neu gychwyn gwersi cerddoriaeth o’r newydd, ceir cyfle hefyd i ddathlu creadigrwydd disgyblion presennol y Ganolfan ac hynny drwy gyfrwng cyngerdd ‘Miwsig Mai’ a gynhelir yn Stiwdio 1 Galeri Caernarfon ar y 18fed o Fai.

Yn y cyngerdd hwn,  gwahoddir yr oedolion sy’n dod i’r Ganolfan am wersi,  i berfformio mewn cyngerdd anffurfiol. Ynghyd â darparu cyfleoedd i berfformio darnau unawdol, ceir perfformiad hefyd gan Gôr Hamdden Mathias.

Ffurfiwyd y Côr yn 2015 a daw’r aelodau at ei gilydd yn wythnosol i ymarfer yn ystod y tymor ysgol.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...