Gwersi Offerynnol a Lleisiol
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn cynnig hyfforddiant o’r ansawdd uchaf ar amrywiaeth eang o offerynnau a’r llais yn ei chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych, Pwllglas ac arlein.
Daw cannoedd o ddisgyblion – yn blant ac yn oedolion, trwy ein drysau bob wythnos i gael gwersi gan ein tîm o diwtoriaid profiadol.
Gŵyl Biano
Ryngwladol Cymru
16-20 Hydref 2025

Plethu Cerddoriaeth Cymru ac Wcrain
Уельсько-український музичний проект
Llwybrau Cerdd
Cyfweliadau byr gydag unigolion y Ganolfan am eu llwybrau at gerddoriaeth.
Camau Cerdd
Mae Camau Cerdd yn brosiect ar gyfer plant ifanc.
Mae’r dosbarthiadau wedi eu llunio’n ofalus gan Marie-Claire Howorth er mwyn rhoi’r cychwyn gorau posib a sylfaen cerddorol cadarn i’ch plentyn.
Cynhelir dau grŵp: Camau Cerdd (i blant 15mis – 3oed) a Camau Nesaf (i blant 4 – 7 oed).
Y Newyddion Diweddaraf

Llwyddiannau Eisteddfod yr Urdd 2025
Llongyfarchiadau i bawb oedd yn cystadlu lawr yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025. Rydym yn hynod falch o'r unigolion sydd yn derbyn eu hyfforddiant yng Nghanolfan Gerdd William Mathias a'r tiwtoriaid sydd yn eu hyfforddi. Alaw Werin bl 6 a Iau Mali Fflur Barker -...

Annette Bryn Parri (1962–2025)
Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Annette Bryn Parri un o sylfaenwyr a thiwtoriaid cyntaf y Ganolfan. Cerddor a pherson arbennig. Diolch Annette am ysbrydoli a chefnogi cymaint o gerddorion o bob oed. Mae ein meddyliau gyda’i theulu a’i ffrindiau ar yr amser...
I’ch dyddiadur…
Dyddiadau Gwersi 1:1
Mae ein gwersi 1:1 yn dilyn patrwm y tymor ysgol; ni fydd gwersi felly yn ystod gwyliau ysgol swyddogol. Nid ydym yn cyfri dyddiau HMS fel gwyliau felly bydd gwersi ar y dyddiau rheini. Ni chynhelir gwersi ar Wyliau Banc.
Dyma drefn y tymor ysgol rydym ni’n ei ddilyn (ond noder y dylech gyfeirio at eich llythry cynnig ar gyfer diwrnod cyntaf eich gwersi o fis Medi, gan bod hyn yn medru amrywio o diwtor i diwtor).
Tymor yr Hydref 2025:
1 Medi – 25 Hydref 2025
(Hanner Tymor)
3 Tachwedd – 20 Rhagfyr 2025
Tymor y Gwanwyn 2026:
5 Ionawr – 14 Chwefror 2026
(Hanner Tymor)
23 Chwefror – 28 Mawrth 2026
Tymor yr Haf 2026:
13 Ebrill – 23 Mai 2026
(Hanner Tymor)
1 Mehefin – 20 Gorffennaf 2026