Hyfforddiant Offerynnol a Lleisiol

Rydym ni’n cynnig hyfforddiant un-i-un o’r safon uchaf gan dîm o diwtoriaid profiadol. Mae hyfforddiant ar amrywiaeth eang o offerynnau a’r llais ar gael, ac mae croeso i blant ac oedolion o bob oed i ddod atom ni am wersi.

Caiff gwersi eu cynnal yn ein prif ganolfan sydd wedi ei leoli o fewn Galeri Caernarfon, ynghyd â’n canghennau yn Theatr Twm o’r Nant Dinbych a Neudd Bentref Pwllglas.

Os yw o ddiddordeb i’r myfyriwr, bydd ein tiwtoriaid yn helpu i baratoi eu disgyblion tuag at arholiadau. Mae byrddau arholi a ddefnyddir gan ein tiwtoriaid yn cynnwys yr ABRSM, Trinity College a Rock School.

Rydym ni’n falch iawn hefyd o gyfoethogi addysg ein myfyrwyr ymhellach, drwy gynnig amryw o gyfleoedd i berfformio, grwpiau Theori Cerddoriaeth, ensembles, gweithdai a dosbarthiadau meistr.

Cyfleusterau

Mae’r rhan helaethaf o’r gwersi a gynhelir yn ein Canolfan o fewn Galeri yn cael eu cynnal mewn ystafelloedd dysgu gwrthsain safon uchel. Rydym ni hefyd yn darparu gwersi yn Theatr Twm o’r Nant Dinbych a Neuadd Bentref Pwllglas mewn ystafelloedd dysgu priodol.

Mae gennym ni bianos safonol, telynau celtaidd a phedal, cit drymiau a marimba ar gyfer y gwersi, ac mae amps ar gael ar gyfer hyfforddiant gitâr drydan. Ar gyfer unrhyw offerynnau eraill, mae gofyn i chi ddod a’ch offeryn efo chi. Cysylltwch â ni os hoffech unrhyw arweiniad pellach. Mae gennym ni hefyd gasgliad bach o offerynnau ar gael i’w llogi i’n myfyrwyr.

Gwneud Cais am Wersi

Mae croeso cynnes i bobl o bob oedran a gallu cerddorol i ddod am wersi cerdd i CGWM. Llenwch y ffurflen gais am wersi ar lein ac fe ddown i gysylltiad pan fydd slot ar gael.

Gallwch hefyd wneud cais am wersi neu tafod ymhellach drwy ffonio 01286 685 230.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Beth yw cost gwersi?

Mae ein tiwtoriaid llawrydd yn gosod ffioedd dysgu eu hunain ar gychwyn pob blwyddyn academaidd. O ganlyniad mae’r ffioedd yn amrywio o diwtor i diwtor.

Er mwyn rhoi syniad bras, mae ffioedd gwersi ar gyfartaledd o gwmpas £35.30 (awr), £17.65 (hanner awr), £11.77 (20 munud).

Oes posib cael help i dalu am y gwersi?

Rydym ni’n ddiolchgar iawn i elusen Cyfeillion CGWM am ddarparu Cronfa Fwrsari er mwyn cynorthwyo disgyblion ifanc â chostau gwersi.
Ymwelwch â Thudalen y Cyfeillion am ragor o wybodaeth.

Pa mor aml mae’r gwersi yn cael eu cynnal?
Rydym ni’n dilyn patrwm tymor ysgolion, felly fel arfer nid oes gwersi yn ystod gwyliau’r ysgol.

Er mwyn sicrhau parhad i’r gwersi, mae’r rhan helaeth o’n disgyblion yn dod am wersi yn wythnosol, mae gwersi pob yn ail wythnos hefyd yn opsiwn. Mae ambell i ddisgybl yn dod yn achlysurol yn unig – cysylltwch â ni i weld beth yw’r opsiynau.

Beth yw eich polisi canslo gwersi?

I ddiogelu incwm y tiwtoriaid llawrydd a’n incwm ninnau fel elusen:

Bydd angen talu yn llawn am unrhyw wers sy’n cael ei chanslo gennych chi efo llai na 24 awr o rybudd, beth bynnag y rheswm (yn cynnwys salwch).

Cewch ganslo hyd at 5 gwers yn unig yn ystod y flwyddyn academaidd (efo rhybudd dros 24awr) heb orfod talu. Bydd angen i chi dalu yn llawn am unrhyw wersi pellach rydych chi’n eu canslo ar ôl y 5 yma.

Os yw eich tiwtor yn fodlon rhoi gwersi arlein, mae’n bosib y bydd modd symud gwers arlein os nad ydych yn gallu mynychu wyneb yn wyneb.

Mae angen i chi adael i Swyddfa CGWM wybod os ydych yn dymuno canslo gwers; nid yw cysylltu efo’ch tiwtor yn ddigonol.

 I ganslo gwers ewch i www.cgwm.org.uk/canslo neu cysylltu â post@cgwm.org.uk / 01286 685 230

Ein Tîm o Diwtoriaid

Dysgwch fwy am ein tiwtoriaid llawrydd sy’n cynnig gwersi un-i-un yn CGWM yn fan hyn.

Mae diogelwch ein myfyrwyr yn bwysig iawn i ni, ac rydym wedi cynnal archwiliad DBS ar pob un o’n tiwtoriaid un-i-un.

Alfred Barker

Alfred Barker

Ffidil

Ganed Alfred Barker yn Johannesburg ac astudiodd y ffidil yng Nghonservatoire Windhoek o wyth oed ymlaen. Yn ystod yr amser yma perfformiodd nifer o goncerti yn gyda cherddorfa’r Conservatoire a Cherddorfa Symffoni Namibia. Yn 1993 teithiodd i Lundain i astudio yn yr Ysgol Purcell, gan fynd ati wedyn i astudio yn y Royal Northern College of Music gyda Yossi Zivoni gan raddio yn 2000 gyda BMus (anrhydedd). Mae ganddo hefyd radd Meistr gan Brifysgol Manceinion a PGCE gan Brifysgol Hope Lerpwl.

Alfred oedd arweinydd Cerddorfa Ieuenctid Dinas Sheffield, a deithiodd ledled Ewrop, ac King Edward Music Society Symphony Orchestra, gan berfformio yn aml fel unawdydd. Mae hefyd wedi perfformio yn aml fel aelod o amryw o bedwarawdau llinynnol ym Manceinion tra oedd yn gweithio Gwasanaeth Cerdd a’r Celfyddydau Perfformio Salford (MAPAS). Roedd hyn yn gysylltiedig ag amryw o brosiectau addysgol gyda cherddorfeydd yr Halle a’r BBC Philharmonic a nifer o deithiau cyngerdd Ewropeaidd.

Ers symud i Ogledd Cymru yn 2011, mae nawr yn dysgu’r ffidil yn ysgolion drwy sir Ddinbych, yn arwain Grŵp Llinynnol Sir Ddinbych ac wedi bod yn diwtor ar gyfer Cerddorfa Ieuenctid Hŷn Gwynedd a Môn am nifer o flynyddoedd. Mae Alfred yn gyfarwyddwr Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych.

Ann Atkinson

Ann Atkinson

Canu

Ar ôl ennill ei B.Add o Brifysgol Cymru dilynodd yrfa addysgu. Fodd bynnag, yn 1990, enillodd Ann ysgoloriaeth i astudio canu gyda Kenneth Bowen yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Ers hynny mae hi wedi perfformio fel cantores ledled y DU a thramor , mewn amrywiaeth o leoliadau a gyda llawer o Gwmnïau Opera Prydain, gan gynnwys Scottish Opera a Opera Gŵyl Glyndebourne.

Mae gyrfa Ann wedi mynd â hi i lawer o wahanol rannau o’r byd , gan gynnwys Ewrop , yr Unol Daleithiau , Asia ac Awstralia . Yn ystod haf 2005 bu’n daith Seland Newydd ac Awstralia fel unawdydd gyda Chôr Llewod. Penllanw’r daith oedd cyngerdd gala yn y Sydney Opera House. Yn ychwanegol at ei gyrfa canu mae Ann yn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru’, yn arweinydd Côr Meibion Bro Glyndŵr a Threlawnyd yn ogystal â bod yn diwtor llais i Ganolfan Gerdd William Mathias.

O 2002 i 2009 roedd Ann hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Froncysyllte. Yn ystod y cyfnod hwn roeddynt yn enillwyr gwobrau yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac yng Ngŵyl Harmonie yn yr Almaen.

Yn 2006 bu i’r Côr sicrhau cytundeb gyda Universal a daeth CDs y ‘Voices of the Valley’ i fodolaeth gan werthu dros 1 miliwn o gopïau. Cafodd pob un o’r pedwar CDs eu henwebu ar gyfer ‘Albwm y Flwyddyn’ yng ngwobrau’r Brits Clasurol. Mae Ann yn ymfalchïo o fod yn arweinydd ac unawdydd ar y CDs . Yn 2007 buont yn perfformio yng Ngwobrau Brits Clasurol yn Neuadd Albert ac maent wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu ac mewn cyngherddau lu yn ystod y cyfnod prysur hwnnw.

Beryl Lloyd Roberts

Beryl Lloyd Roberts

Piano

Un o ferched Edeyrnion ydi Beryl a bu’n astudio cerdd yng Nghaerdydd. Mae’n gyn-bennaeth yr adran gerdd yn Ysgol Brynhyfryd Rhuthun. Mae galw mawr am ei gwasanaeth i feirniadu, cyfeilio ac i arwain cymanfaoedd drwy Gymru. Beryl ydi Cyfarwyddwr Cerdd Cymdeithas Gorawl Dinbych a’r Cylch ers deunaw mlynedd.

Bethan Conway

Bethan Conway

Piano a Thelyn Darllen Mwy
Bethan Conway

Bethan Conway

Piano a Thelyn

Dechreuodd hyfforddiant cerddorol Bethan yn 7 oed gyda gwersi piano cyn dechrau chwarae telyn yn 10 oed. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i gyflawni ei diplomâu perfformiad ABRSM ar y delyn a’r piano ac ers hynny mae wedi perfformio mewn amryw o leoliadau ym Mhrydain, Ewrop a’r UDA fel unawdydd ac fel rhan o amrywiaeth o ensembles. Enillodd Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf gan y Coleg Cerdd Brenhinol yn 2017 a dychwelodd i’r coleg ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig fel Ysgolor ‘Ashley Family Foundation’. Graddiodd Bethan gyda Meistr Perfformiad gyda Rhagoriaeth yn 2019 ac ar ôl cwblhau ei hastudiaethau dyfarnwyd gwobr fawreddog ‘The Queen Elizabeth, The Queen Mother Rose Bowl.

Fel cystadleuydd brwd mewn Eisteddfodau, mae Bethan wedi ennill llawer o wobrau gan gynnwys y wobr gyntaf yn unawd telyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â chael ei dewis yn rownd derfynol cystadleuaeth fawreddog y Rhuban Glas ar ddau achlysur. Mae hi hefyd wedi ennill yr ail wobr yn yr unawd piano a’r drydedd wobr yn yr unawd telyn yn Eisteddfod yr Urdd. Yn 2016 dyfarnwyd Ysgoloriaeth Nansi Richards i Bethan yn ogystal â Gwobr Delyn y Coleg Cerdd Brenhinol.

Ers dychwelyd i Treuddyn yn Sir y Fflint, mae Bethan yn mwynhau gyrfa fel pianydd a thelynores. Mae hi’n perfformio gyda llawer o gerddorfeydd ym Mhrydain gan gynnwys NEW Sinfonia – cerddorfa breswyl yn yr Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, City of Birmingham Symphony Orchestra a Birmingham Contemporary Music Group. Mae hyn wedi rhoi cyfle i Bethan weithio gydag arweinwyr byd-enwog fel Bernard Haitink, Edward Gardner a Rafael Payare. Mae Bethan hefyd yn mwynhau cyfeilio, daliodd swydd dirprwy gyfeilydd i Cantorion Rhos yn cyfeilio iddynt ar eu taith o amgylch Portiwgal yn 2015 ac yn ddiweddar mae wedi cydweithio â Chorws Cymunedol WNO ac Opera Ieuenctid WNO. Yn gerddor siambr brwd, mae Bethan yn perfformio’n rheolaidd gyda’i grŵp Ffliwt a Thelyn, ‘Hefin Duo’ yn ogystal â ‘Trilogy’, triawd ffliwt, telyn a fiola. Mae Bethan yn dysgu piano a thelyn ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Sir y Fflint, Ysgol Rupert House Henley-on-Thames ac yn breifat yn Nhreuddyn.

Caleb Rhys Jones

Caleb Rhys Jones

Canu
Caryl Roberts

Caryl Roberts

Piano, Telyn a Theori Darllen Mwy
Caryl Roberts

Caryl Roberts

Piano, Telyn a Theori
Catrin Gruffudd

Catrin Gruffudd

Piano
Catrin Morris Jones

Catrin Morris Jones

Telyn

Daw Catrin yn wreiddiol o Fangor ac ar ôl ugain mlynedd o fyw a gweithio yn Llundain mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli. Wedi cwblhau cwrs perfformio yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain, lle bu’n astudio gyda David Watkins, aeth Catrin ymlaen i wneud cwrs ôl-raddedig yn yr Academi Frenhinol. Yno fe astudiodd gyda Skaila Kanga gan ennill gwobr Renata Scheffel-Stein am ei gwaith ar y delyn. Ym mis Mai 2014 cafodd ei hethol yn Gydymaith (Associate) yr Academi Frenhinol. Rhoddir yr anrhydedd hwn i gyn-fyfyrwyr yr Academi sydd wedi amlygu eu hunain ym myd cerddoriaeth a gwneud cyfraniad yn eu maes dewisiedig.

Mae dysgu’r delyn i blant ac oedolion wedi bod yn ran bwysig o yrfa Catrin ac mae hi wedi dysgu nifer o ddisgyblion preifat dros y blynyddoedd yn ogystal a dysgu yn Ysgol Gymraeg Llundain, Ysgol Uwchradd Merched St Albans, Canolfan Gerdd Watford, Ysgol Ferched Dinas Llundain, Ysgol Genethod St Pauls ac Ysgol Beechwood Park, Hertfordshire. Gweithiodd Catrin mewn amryw o sioeau cerdd yn ’West End’ Llundain, gan gynnwys: Oliver!, The King and I, Notré Dame de Paris, The Producers, My Fair Lady, Napoleon, The Secret Garden (Y Cwmni Shakespeare Brenhinol) a South Pacific (Y Theatr Genedlaethol Brenhinol).

Ar hyn o bryd mae Catrin yn ddirpwy yn Phantom of the Opera. Mae Catrin wedi perfformio gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw, yn cynnwys: y Philharmonia, Royal Philharmonic a’r Royal Philharmonic Concert Orchestras, cerddorfa’r Hallé, y Royal Scottish National Orchestra, Ensemble 10/10 (ensemble cyfoes Cerddorfa Ffilharmonic Lerpwl), Trondheim Symphony Orchestra, Royal Opera House Orchestra, Glyndebourne Touring Orchestra, English Touring Opera, Garsington Opera Orchestra, Opera São Carlos, Lisbon, Portugal, London City Ballet, Moscow City Ballet a’r Northern Ballet Company.

Ymhlith rhai o gyngherddau mwyaf cofiadwy Catrin mae perfformiadau o’r Concerto Ffliwt a Thelyn gan Mozart yn Neuadd y Barbican, y Dance Sacrée et Dance Profane gan Debussy yng Ngŵyl Minehead, a’r perfformiad cyntaf o Telynau Aur gan Adam Gorb, yn Neuadd y Wigmore yn Llundain. Yn ystod ei blwyddyn olaf yn yr Academi Frenhinol Gerddorol, Catrin oedd yr unig un o Brydain i ennill lle yng Ngherddorfa Gŵyl Schleswig Holstein, ac fe deithiodd o gwmpas Yr Almaen. Sbaen, Awstria, Yr Eidal a Denmarc, gan weithio gyda arweinyddion byd enwog gan gynnwys Valery Gergiev, Marin Alsop, Semyon Bychkov a’r diweddar Syr George Solti.

Mae Catrin wedi chwarae mewn amryw o leoedd cofiadwy a phwysig gan gynnwys y Neuadd Wledda yn Llundain, Y Senedd yn San Steffan, Amgueddfa V&A, Palas Kensington, yr Amgueddfa Borteuadau Genedlaethol, Y Gymdeithas Frenhinol yn Pall Mall, Tŵr Llundain a Phont Tŵr Llundain, yn ogystal a nifer o westyau mwyaf blaenllaw Llundain a nifer o’r neuaddau Liferi yn Ninas Llundain. Me hi hefyd wedi gwisgo fel gwrach er mwyn perfformio ar blatfform 9¾ yng Ngorsaf Kings Cross yn lawnsiad DVD cyntaf Harry Potter! Catrin sy’n chwarae’r delyn yn y ddeuawd Arabesque (ffliwt a thelyn), ac fe gychwynnodd ddysgu yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn 2015.

Dewi Ellis Jones

Dewi Ellis Jones

Cit Dryms & Offerynnau Taro Darllen Mwy
Dewi Ellis Jones

Dewi Ellis Jones

Cit Dryms & Offerynnau Taro

Mae Dr Dewi Ellis Jones yn dod o Lanfairpwll, Ynys Môn ond bellach yn byw yn Y Bontnewydd. Graddiodd gyda BMus ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2001, ac yna dilyn gyda gradd MA, a diploma LRSM. Mae wedi ennill Doethuriaeth mewn Perfformio a Chyfansoddi, ar ôl astudio gyda Simone Rebello, Dr Pwyll ap Sion a’r byd enwog Y Fonesig Evelyn Glennie.
Dewi yw unawdydd offerynnau taro llawn amser cyntaf Cymru ac mae’n brysur hefyd fel unawdydd gyda sawl cerddorfa a band. Ef yw prif offerynnwr taro Ensemble Cymru, ddaeth i’r rhestr fer yng Ngwobrau Cerddoriaeth y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2006.
Mae’n diwtor yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ac yn athro Offerynnau Taro yn y Brifysgol ym Mangor. Enillodd Dlws y Prif Gyfansoddwr, sef Medal Goffa Grace Williams, yn 2001 yng Ngŵyl yr Urdd. Derbyniodd Dewi ysgoloriaeth gan S4C i’w noddi a helpu datblygu ei dalent fel perfformiwr. Mae hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Mae Dewi yn briod ag Einir Wyn Hughes, sy’n delynores broffesiynol. Mae ganddynt un ferch, Ela Non.

Diana Keyse

Diana Keyse

Piano

Magwyd Diana ar fferm yn Nyffryn Ogwen ac astudiodd y piano a’r llais yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Cymru, Caerdydd gan ennill cymhwyster GWCMD. Mae hi hefyd wedi ennill cymhwyster LTCL o Goleg Cerdd Trinity, Llundain.
Yn ogystal â phrofiad helaeth fel tiwtor piano, llais a theori preifat yn Ne a Gogledd Cymru a Essex, mae gan Diana brofiad o weithio fel pennaeth cerdd yn ysgol St John’s Newton, Porthcawl ac Ysgol Hillgrove, Bangor. Mae hi wedi hyfforddi myfyrwyr ar gyfer arholiadau piano a llais yr ABRSM a bwrdd arholi’r Trinity Guilhall yn ogystal â pharatoi myfyrwyr yn llwyddiannus ar gyfer arholiadau TGAU a Lefel A mewn cerddoriaeth.
Mae Diana yn credu’n gryf bod cymryd rhan mewn cerddoriaeth yn gymorth i ddatblygu sgiliau sy’n fuddiol i berson ar hyd eu hoes ac y dylai fod yn brofiad hapus, pleserus a chofiadwy.

Dylan Williams

Dylan Williams

Pres

Dechreuodd chwarae’r cornet yn ddeg oed yn yr ysgol gynradd a chwarae mewn nifer o fandiau lleol fel y prif cornedydd drwy ei amser yn yr ysgol. Enillodd wobr yr unawdydd gorau yng Ngogledd Cymru yn 1995 cyn mynd i astudio cerdd yng Ngholeg Prifysgol Salford, Manceinion gan arbenigo mewn bandiau pres. Tra yn y coleg roedd yn aelod o fand pres A yr adran gerdd, un o fandiau colegol gorau yn Ewrop ar y pryd. Roedd yn hynod o lwcus yn y coleg i dderbyn hyfforddiant gan gerddorion fel David King, Roy Newsome a Peter Graham Yn dilyn gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, dechreuodd weithio fel tiwtor pres i Wasanaeth Ysgolion William Mathias.

Mae’n dysgu yn ysgolion rhanbarth Caernarfon ac yn arweinydd ar fand iau rhanbarth Caernarfon sydd â 125 o aelodau! Mae hefyd yn arweinydd band cyngerdd Gwynedd a Môn ac yn diwtor i’r band pres iau a hyn Gwynedd a Môn. Mae wedi caell llwyddiant ysgubol gyda band pres Ysgol Bontnewydd wrth iddynt guro yn Eisteddfod yr Urdd 2013 a 2014 a hefyd curo pencampwriaeth Prydain yn 2013 a 2014; yr unig fand mewn hanes i guro’r ddwy gystadleuaeth yma’r un flwyddyn. Mae hefyd wedi cael llwyddiant yn arwain band chwyth Ysgol uwchradd Brynrefail wrth iddynt guro yn Eisteddfod yr Urdd 2014. Mae yn credu yn gryf mewn rhoi cyfle i bob plentyn dderbyn gwersi offerynnol ac yn pwysleisio fod cerddoriaeth i fod yn hwyl i bawb!

Edith

Edith

Piano

Magwyd Edith ar fferm yn Rhosybol, Ynys Môn. Fe fynychodd Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch ac yna ar ôl dwy flynedd o goleg dechreuodd Edith weithio gyda chwmni Cyfreithwyr Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd LLP. Mae Edith bellach wedi gweithio i’r cwmni ers dros 37 o flynyddoedd.

Ar ôl priodi yn 1992 cartrefwyd yn Dinas, Llanwnda, Caernarfon ac yna ail gychwyn i astudio’r biano o dan hyfforddiant Annette Bryn Parri. Yn 1998 aeth Edith ymlaen i gyflawni ei diploma sef A.L.C.M yng Ngholeg Chetham’s, Manceinion.

Mae yn rhoi gwersi yn ei chartref yn Dinas yn ogystal a Chanolfan Gerdd William Mathias, yn fam i ddau o blant ac hefyd yn nain.

Einir Wyn Hughes

Einir Wyn Hughes

Telyn a Phiano

O Ben Llŷn y daw Einir a derbyniodd wersi’n naw mlwydd oed gan Alwena Roberts. Wedi blwyddyn o astudio gyda Meinir Heulyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd, symudodd i’r Ysgol Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, lle enillodd radd BMus yn 2005.

Yn ddiweddar, cwblhaodd gwrs Meistr mewn Perfformio a Cherddoriaeth Cymru ym Mangor, lle bu’n ddisgybl gyda Elinor Bennett. Yn ogystal, enillodd ddiploma yr ABRSM mewn perfformio ar y delyn.

Mae wedi perfformio’n ddiweddar gyda Cherddorfa Siambr Bangor, Cerddorfa Siambr Cymru, Ensemble Cymru ac i Dywysog Cymru. Mae’n diwtor telyn yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ac yng Ngwasanaeth Ysgolion William Mathias yn ogystal.

Elain Rhys

Elain Rhys

Piano a Thelyn Darllen Mwy
Elain Rhys

Elain Rhys

Piano a Thelyn

Yn wreiddiol o Fodedern, Ynys Môn, graddiodd Elain gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor yn 2020 lle enillodd wobr goffa Phillip Pascall am gyrhaeddiad rhagorol. Astudiodd y delyn a’r piano dan arweiniad cerddorion blaenllaw megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones. Mae wedi bod yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel telynores ac mae’n mwynhau perfformio’n unigol mewn cyngherddau yn lleol. Bu’n gyfeilydd i gynhyrchiad Opra Cymru o Don Giovanni a aeth ar daith ledled Cymru yn 2019. Mae’n mwynhau cyfeilio i unigolion, yn gyfeilydd swyddogol mewn Eisteddfodau a gwyliau cenedlaethol ac yn gyfeilydd i Gôr Ieuenctid Môn a Chôr Hogia Llanbobman. Yn ystod haf 2022, gwahoddwyd Elain i ddysgu’r delyn a pherfformio fel rhan o’r Wythnos Dreftadaeth Gymreig yn nhalaith Wisconsin, UDA. Ar hyn o bryd, mae Elain yn astudio ar gyfer ei doethuriaeth sy’n canolbwyntio ar unig opera Grace Williams, ‘The Parlour’.

Elinor Bennett

Elinor Bennett

Telyn

Astudiodd ELINOR BENNETT gydag Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain ar ôl graddio yn y Gyfraith, a bu’n chwarae gyda phrif gerddorfeydd Prydain yn gynnar yn ei gyrfa. Recordiodd 15 albwm yn amrywio o gerddoriaeth telyn yr 20fed ganrif, i gerddoriaeth traddodiadol Cymru.

Ysgrifennodd sawl cyfansoddwr gerddoriaeth i Elinor, a cyfarwyddodd astudiaethau telyn ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n Athrawes Ymweliadol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg y Guildhall, Llundain. Cafodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Bangor, yr Academi Gerdd Frenhinol, Coleg Cerdd a Drama Cymru, a Doethuriaeth gan Brifysgol Cymru. Elinor yw Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru a Gŵyl Ryngwladol y Delyn yng Ngwlad Thai.

Glian Llwyd

Glian Llwyd

Piano

Graddiodd Glian Llwyd gyda B.Mus (anrhydedd) ym Mhrifysgol Bangor yn 2005. Yn dilyn, derbyniodd radd Meistr mewn perfformio ar y piano gyda chlod uchel yng Ngholeg Cerdd Trinity, Llundain yn 2008.

Y mae wedi bod yn llwyddiannus gyda chystadlaethau offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd lle yr ymddangosodd ddwywaith yn rownd derfynol Ysgoloriaeth Bryn Terfel; ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lle enillodd y Rhuban Glas gyda’r piano yn 2007. Enillodd Glian hefyd brif wobr Tlws y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2006.

Ers graddio, y mae Glian wedi dilyn gyrfa fel pianydd a chyfeilydd gan gyfeilio yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen, yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ym Mhrifysgol Bangor. Y mae wedi perfformio gyda unawdwyr ac offerynnwyr mewn amryw o ganolfannau a chlybiau cerdd yng Nghymru a thu hwnt. Yn 2012 bu’n rhan o’r panel yn beirniadu’r cystadlaethau offerynnol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Y mae Glian Llwyd yn diwtor piano ym Mhrifysgol Bangor, ac hefyd yn diwtor piano a thelyn yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, ac i wasanaeth Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych.

Graham Land

Graham Land

Cit Dryms

Cychwynnodd Graham ddysgu’r drymiau o oedran uchel, ac yn fuan wedi iddo adael Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon cychwynnodd chwarae yn led-broffesiynol mewn bandiau lleol, teithio ar hyd a lled Prydain yn dysgu ei grefft.

Symudodd Graham i Gaerdydd yn y wythdegau cynnar i chwarae yn broffesiynol, gan chwarae mewn nifer o gyngherddau, ar y teledu a radio ac mewn sesiynau recordio, ac mae’n parhau i wneud hyn hyd heddiw.

Yn ystod ei amser yng Nghaerdydd, bu Graham yn teithio yn ôl ag ymlaen i Lundain i weld ei diwtor a hyfforddwr drymiau Robbie France, drymiwr byd enwog o Awstralia. Dyma restr fer o artistiaid o ddisgyddiaeth Graham. The Drifters, Cerddorfa’r BBC, Bryn Terfel, Cerys Matthews, Rhys Meirion, Meic Stevens, Caryl Parry Jones, John Owen-Jones. Mae’r rhestr yn mynd ymlaen.

Mae wedi bod yn aelod o Bryn Fôn a’r Band ers canol y nawdegau gan recordio nifer o’i albymau mwyaf poblogaidd. Mae Graham yn dysgu’r drymiau o gradd 1 i gradd 8 ac mae wedi bod yn dysgu i’r Ganolfan ers 14 mlynedd.

Hawys Parri

Hawys Parri

Piano

Cychwynnodd Hawys ddysgu’r piano yn 5 oed ac mae wedi ei dysgu gan Mrs Val Jones GRSM ARCM ARCM (SM) o Berriw yng nghanolbarth Cymru, Mrs Margaret Newman – disgybl 6ed cenhedlaeth i Beethoven ac Iwan Llewelyn-Jones.

Mynychodd Hawys Conservatoire Cerdd Birmingham am 4 mlynedd lle enillodd Baglor mewn Cerddoriaeth gydag anrhydedd. Bu’n un o gystadleuwyr terfynol ar gyfer gwobr lieder Ysgol Gerdd Birmingham ac mae wedi perfformio mewn cyngherddau megis gweithiau cyfan Debussy a Liszt.

Mae ei repertoire wedi ei ledaenu ar hyd 400 mlynedd o gerddoriaeth i’r piano ac yn cynnwys Variations sérieuses gan Mendelssohn, sonata Schumann yn G leiaf ac Impromptu rh. 2 Kapustin. Mae Hawys ar hyn o bryd wrthi’n astudio cwrs TAR a hefyd yn parhau â’i gyrfa fel unawdydd piano drwy weithio tuag at arholiad LRSM.

Helen Owen

Helen Owen

Piano

Wedi dysgu Cerddoriaeth mewn ysgolion yn y De, Canolbarth a Gogledd Cymru, mae hi erbyn hyn yn dysgu Cerddoriaeth a Chymraeg yn Ysgol Friars ym Mangor ers nifer o flynyddoedd.
Yn ei hamser hamdden mae hi’n mwynhau cyfeilio i gorau ac i unigolion, hyfforddi ar gyfer eisteddfodau yn ogystal â bod yn fam i ddau o blant!

Iolo Hughes

Iolo Hughes

Cit Dryms
Johanne Jones

Johanne Jones

Canu (Pop)

Mae Johanne yn cynnig hyfforddiant mewn arddulliau pop, Disney a sioeau cerdd i’w myfyrwyr yn CGWM. Dechreuodd berfformio o flaen cynulleidfaoedd yn 11 oed, yn yr eglwys leol, mewn cynyrchiadau ysgol ac fel aelod o gôr.

Datblygodd ei llais ymhellach drwy gystadlu a chael hyfforddiant lleisiol clasurol ac opera. Fe aeth ymlaen i astudio’r Celfyddydau fel pwnc Lefel A, a graddio gydag anrhydedd mewn Celfyddydau Perfformio a’r Cyfryngau. Cafodd swydd fel ‘Cot Goch’ cyn mynd ymlaen i sefydlu gyrfa fel cantores hunan-gyflogedig gan berfformio mewn canolfannau ledled Cymru.

Mae Johanne wedi bod yn cynnig hyfforddiant lleisiol a datblygu hyder perfformio ers 2004. Mae’n trefnu i’w myfyrwyr ddod at ei gilydd ddwywaith y flwyddyn i berfformio yn unigol ac fel grwpiau. Ei nod yw cynyddu hyder pobl i gredu ynddynt eu hunain, nid yn unig ym maes canu a pherfformio, ond yn ogystal yn eu bywydau bob dydd.

Katherine Betteridge

Katherine Betteridge

Ffidil

Mae Katherine Betteridge yn cynnig hyfforddiant ffidil, fiola a chyfansoddi. Astudiodd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gan arbenigo mewn Perfformiad a Chyfansoddi, lle derbyniodd radd dosbarth cyntaf yn 2005. Enillodd Ysgoloriaeth Drapers, a alluogodd iddi astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Perfformiad ar y ffidil a chwblhawyd yn 2007. Mae Katherine nawr yn perfformio yn broffesiynol, ac wedi recordio mewn amryw o stiwdios y BBC, gan gynnwys BBC Maida Vale gydag Phedwarawd Linynnol Horizons, lle mae hi’n brif chwaraewr. Mae perfformiadau ganddi hi a’i phedwarawdau wedi eu darlledu ar BBC Radio 1, BBC Radio 2, Radio 6, Radio Wales ac S4C ac mae hi wedi gweithio gyda Bryn Fôn, Casi Wyn, Pwyll ap Sion, Guto Puw a nifer o fandiau roc a pop. Ar ôl iddi gwblhau ei gradd meistr mewn perfformiad, parhaodd Katherine i gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau byr ac ar gyfer ei mwynhad, ac yn 2012 cyfansoddodd ddarn a ddarlledwyd ar Radio’r BBC. Yn dilyn hynny cafodd ei gwahodd i gychwn ar Ddoethuriaeth wedi ei gyllido mewn Cyfansoddi gan astudio dan arweiniad yr Athro Andrew Lewis, a gwblhawyd ym Mai 2019. Erbyn hyn mae nifer o’i gweithiau a gomisiynwyd wedi eu perfformio gan ensembles megis Psappha, Okeanos ymysg eraill. Mae hi hefyd yn rhedeg Pedwarawd Llinynnol Eryri a hi cyd-sefydlodd Exploration in Sound, cwmni celfyddydau arbrofol, gydag Eleri Roberts a Twila Bakker.

Lisa Harrison

Lisa Harrison

Piano

Dechreuodd Lisa ganu’r piano yn bump oed a chafodd lawer o lwyddiannau cynnar yn Eisteddfod yr Urdd a Gŵyl Gerdd Caer. Ennillodd Lisa ysgoloriaeth i astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn 1999. Graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2002 ar ôl perfformio Consierto Piano K453 gan Mozart gyda Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol a datganiad unawdol.

Ers graddio, mae Lisa wedi mwynhau gyrfa ym myd dysgu, gan weithio fel Arweinydd Cyswllt ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol mewn ysgol uwchradd yn Sir y Fflint ers 2010. Mae Lisa hefyd yn cyfeilio i Gantorion Sirenian, Wrecsam, o dan arweinyddiaeth Jean Stanley-Jones. Mae’r Côr yn perfformio’n gyson ar draws y Deyrnas Unedig a hefyd ymhellach i ffwrdd. Ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar mae perfformiadau yn Basilica San Pedr, Dinas y Fatican ac yn y Pantheon yn Rhufain.

Mared Emlyn

Mared Emlyn

Piano a Thelyn Darllen Mwy
Mared Emlyn

Mared Emlyn

Piano a Thelyn

Cwblhaodd Mared ei doethuriaeth mewn perfformio ar y delyn a chyfansoddi yn 2014 ym Mhrifysgol Bangor gydag ysgoloriaeth wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Bu’n astudio cyfansoddi gyda Dr Pwyll ap Siôn a’r delyn gydag Elinor Bennett, yn ogystal â chael gwersi dramor yn Swistir a Chanada

Enillodd fedal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 am ei gwaith Perlau yn y Glaw ar gyfer y delyn sydd erbyn hyn yn cael ei berfformio yn aml mewn cystadlaethau a gŵyliau telyn. Mae wedi derbyn sawl comisiwn i gyfansoddi, gan gynnwys gweithiau ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Côr Meibion Colwyn, comisiwn ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor a gafodd ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a concerto telyn ar gyfer Gŵyl Biwmares a berfformiwyd gan y Gerddorfa Siambr Gymreig a Mared ei hun fel yr unawdydd. Yn 2018, cydweithiodd â’r cerddor Gwenan Gibbard a’r bardd Mererid Hopwood ar gomisiwn gan Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru fel rhan o ddathliadau penblwydd y telynor adnabyddus Osian Ellis yn 90 oed.

Mae Mared yn perfformio mewn cyngherddau fel unawdydd, mewn ensemblau ac fel aelod o gerddorfeydd.

Marie-Claire Howorth

Marie-Claire Howorth

Piano, Chwythbrennau, Camau Cerdd Darllen Mwy
Marie-Claire Howorth

Marie-Claire Howorth

Piano, Chwythbrennau, Camau Cerdd

Mae Marie-Claire Howorth yn gerddor proffesiynol creadigol sy’n ymdrechu i ysbrydoli. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio mewn ysgolion a chydweithio ag amryw o bartneriaid ar brosiectau.
Marie-Claire sy’n sgwennu cynlluniau’r gwersi a’r caneuon ar gyfer Camau Cerdd. Mae hi’n rhannu pob agwedd o’i dulliau arloesol a defnydd o’r adnoddau gydag ymarferwyr Camau Cerdd newydd y hyfforddir ganddi hi gan sicrhau bod mwy o blant yn cael y cyfleoedd i dderbyn y profiadau cyfoethog o ddysgu a ddarperir gan Camau Cerdd.

Morwen Blythin

Morwen Blythin

Telyn

Dechreuodd Morwen astudio’r delyn pan yn 9 oed ac yn dilyn llwyddiant yn yr Ŵyl Gerdd Dant ac Eisteddfod Genedlaethol parhaodd ei hastudiaethau yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, gan raddio yn 1988. Cafodd gyfle i berfformio mewn achlysuron ar gyfer aelodau o’r teulu Brenhinol, gan gynnwys y diweddar Frenhines Elizabeth, y Fam Frenhines: Diana, Tywysoges Cymru; Tywysog Philip, a hefyd wedi perfformio yn ninas Llundain mewn achlysuron a fynychwyd gan bum gwahanol Arglwydd Faer, y diweddar Farwnes Thatcher, John Major a boneddigion eraill.

Cafodd Morwen gyfle i deithio o amgylch y Deyrnas Unedig a pherfformio yn y West End gyda nifer o sioeau cerdd gan gynnwys The Sound of Music , Phantom of the Opera , Some Like it Hot , Sunday in the Park with George, Oklahoma!, Valentine’s Day ac wedi chwarae gyda gwahanol gerddorfeydd , cwmnïau opera a chwmnïau bale.

Fel unawdydd , mae hi wedi perfformio consierto Mozart i Ffliwt a Thelyn a consierto Handel i’r Delyn ac wedi rhoi datganiadau ac ymddangosiadau cyngerdd yng Nghymru a Lloegr. Dychwelodd Morwen i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd ac enillodd radd anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 1996 ac wedi hynny dechreuodd ei gyrfa addysgu , yn gyntaf yn Wrecsam , ac yna ymunodd ag Ysgol Howell’s yn 1998 lle bu’n dal y swydd o Bennaeth Cerdd ac yna Athrawes Hyn hyd nes y bu cau’r ysgol ym mis Awst 2013.

Ar hyn o bryd mae Morwen yn dysgu ar gyfer Canolfan Gerdd William Mathias yn Ninbych ac i nifer o ysgolion yn Wrecsam. Mae ganddi nifer cynyddol o ddisgyblion telyn a phiano preifat ac mae hi wedi dechrau fel cyfeilydd i Gôr Cytgan yn ddiweddar. Mae Morwen yn cyfeilio i Gerdd Dant yn Eisteddfodau Cylch a Sir yr Urdd ac yn perfformio ar y delyn a’r piano ar gyfer achlysuron, priodasau a chyngherddau.

Neil Browning

Neil Browning

Gitâr, Ukulele, Accordion Darllen Mwy
Neil Browning

Neil Browning

Gitâr, Ukulele, Accordion

Mae diddordebau cerddorol a gweithgareddau hyfforddi Neil Browning yn amrywiol iawn. Fel prif diwtor gitâr CGWM am dros ddeng mlynedd, mae’n dysgu mewn nifer o arddulliau o glasurol i roc, ynghyd â bod yn diwtor ar gyfer prosiect Galeri ar gyfer grwpiau gitâr drydanol, Sbarc!

Mae llawer o ofyn amdano hefyd yn y sîn cerddoriaeth draddodiadol fel hyfforddwr cwrs ac arweinydd gweithdai. Mae Neil wedi ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer y teledu ac wedi chwarae mewn pob math o sioeau byw, gan gynnwys cynyrchiadau theatr deithiol a gigs ledled Ewrop ac America.
Mae wedi dysgu amrywiaeth o gyrsiau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio yng Ngholeg Addysg Bellach Yale yn Wrecsam, lle bu iddo hefyd ennill ei gymhwyster T.A.R. Yn fwy diweddar mae Neil wedi chwarae a recordio gyda Cajuns Denbo (acordion), band roc wedi ei sefydlu yng Nghaerdydd Bluehorses (gitâr) a Billy Thompson Gypsy Style (gitâr), ynghyd â’i band sy’n herio categorïau genre Never Mind the Bocs, a ryddhaodd eu hail albwm yn 2014.

Nicki Pearce

Nicki Pearce

Sielo

Astudiodd Nicki gyda David Smith yn Academi Frenhinol Cerdd, Llundain, a chwblhaodd ei hastudio gyda Naomi Butterworth o Trinity College of Music, Llundain gan ennill gradd dosbarth cyntaf ag anrhydedd mewn perfformio. Yn ystod y cyfnod yma bu’n perfformio gyda’r Britten Pears Orchestra a hi oedd y prif sielydd rhwng 1996-1998.
Mae Nicki wedi chwarae mewn dosbarthiadau meistr gyda cherddorion megis William Pleeth, Karina Georgian, Eduado Vassallo (Gŵyl Sielo Manceinion 1998), Maud Tortelier, The Alberni String Quartet, Brodsky Quartet a’r Endellion Quartet. Mae Nicki wedi ennill gwobrau gan gynnwys Gwobr Goffa John Barbirolli ar gyfer y sielo, Gwobr Guivier ar gyfer Chwaraewr Llinynnau, a Gwobr Vivian Joseph i’r Sielo.

Enillodd ysgoloriaeth hefyd i fynychu ysgol gerdd Academia Chigiana in Siena, Italy ac i gynrychioli’r Academi gan roi cyngherddau yn Tuscany. Mae Niclola wedi perfformio mewn nifer o leoliadau mawreddog gan gynnwys Y Royal Albert Hall, Festival Hall, Queen Elizabeth Hall, Snape Maltings a St John Smith’s Square. Mae hi hefyd wedi perfformio Concerto Sielo Elgar, Concerto Sielo Saint Saens a Faure Elegie gyda Cherddorfa Symffoni Exeter. O 1999-2003 bu’n gweithio mewn Ysgol yn San Steffan, Llundain yn dysgu’r sielo, arwain a hyfforddi cerddoriaeth siambr, ynghyd â bod yn berfformiwr llawrydd.

Ers symud i Ogledd Cymru yn 2003 mae Nicki yn dysgu pobl o bob oedran a chyrhaeddiad ac yn mwynhau’r gwaith o hyfforddi yn fawr iawn. Mae Nicki hefyd yn berfformiwr llawrydd ac yn sielydd yng Ngherddorfa Siambr Cymru, ac Ensemble Cymru. Yn Ionawr 2014 cafodd ei gwahodd gan Anup Kumar Biswas i hyfforddi, cynnal dosbarthiadau meistr a chyngherddau yn Ysgol Gerdd Mathiason, Kolkata, India. Mae hi’n byw gyda’r gŵr a’i dau fab ac yn mwynhau ymweld â chestyll, mynydda, dringo a beicio.

Rhiannon Mathias

Rhiannon Mathias

Ffliwt

Mae Dr Rhiannon Mathias ffliwtydd ac awdur gyda chryn ddiddordeb ym maes cerddoriaeth gyfoes.
Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Surrey a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt, cyn parhau ei hymchwil ar Schoenberg a Stravinsky ym Mhrifysgol Reading.

Mae ganddi brofiad helaeth fel darlithydd, darlledwraig a siaradwr cyhoeddus, ac mae Rhiannon yn cael ei chydnabod fel arbenigwraig ar gerddoriaeth Grace Williams, Elizabeth Maconchy ac Elisabeth Lutyens.
Mae hefyd yn chwareydd ffliwt eithriadol o fedrus ac wedi bod yn diwtor CGWM ers 2005.

Rhys Evans

Rhys Evans

Cit Dryms
Rhys Meirion

Rhys Meirion

Canu

Graddiodd Rhys Meirion ym myd addysg a bu’n brifathro cyn cychwyn ei hyfforddiant fel canwr. Cwblhaodd ei astudiaethau ar gwrs opera ôl-radd yn y Guildhall, Llundain.

Yn dilyn y cwrs hwn, ymunodd Rhys â Chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr yn 1999 lle bu’n un o’r prif gantorion o 2001-2004.Ymysg ei rannau mwyaf roedd Rodolfo yn La Boheme, Pinkerton yn Madam Butterfly, Alfredo yn La Traviata, Nemorino yn L’Elisir d’Amore a Nadir yn y Pysgotwyr Perlau. Yn 2002, gwelwyd Rhys am y tro cyntaf yn Awstralia fel Rodolfo yn La Boheme i Gwmni Opera
Gorllewin Awstralia a’i berfformiad cyntaf yn Ewrop fel Adolfo i Städtische Bühnen, Frankfurt-am-Main.

Mae ei uchafbwyntiau mewn cyngherddau yn cynnwys cyngerdd gala yn neuadd Albert, Llundain gyda Bryn Terfel, ei berfformiad cyntaf yn y Proms yn 2001 gafodd ei ddarlledu ar BBC 2 a Chyngerdd Penblwydd Desert Island Discs yn y Festival Hall yn Llundain. Mae wedi ymddangos yng Ngwyliau Henley, Cheltenham, Gogledd Cymru ac Abertawe i enwi ond rhai; mewn cyngherddau ym Mhatagonia, Barbados, Toronto, Ottawa a Florida ac yn ymddangos yn aml fel unawdydd gwadd mewn galas operatig gyda’r Gerddorfa Philharmonig Frenhinol. Fel canwr, mae ei recordiadau yn cynnwys albwm mewn deuawd gyda Bryn Terfel o’r enw Benedictus ar label SAIN. Mae ganddo hefyd CD o’r enw Bluebird of Happiness ar gyfer y label Awstralaidd Stanza AV a thair CD arall i SAIN, Celticae yw’r ddiweddaraf. Dychwelodd at Gwmni Cenedlaethol Cymru yr haf diwethaf (2010) mewn cynhyrchiad o Die Meistersinger von Nurnberg gan Wagner gafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid.ymru ac Abertawe i enwi ond rhai; mewn cyngherddau ym Mhatagonia, Barbados, Toronto, Ottawa a Florida ac yn ymddangos yn aml fel unawdydd gwadd mewn galas operatig gyda’r Gerddorfa Philharmonig Frenhinol. Fel canwr, mae ei recordiadau yn cynnwys albwm mewn deuawd gyda Bryn Terfel o’r enw Benedictus ar label SAIN. Mae ganddo hefyd CD o’r enw Bluebird of Happiness ar gyfer y label Awstralaidd Stanza AV a thair CD arall i SAIN, Celticae yw’r ddiweddaraf. Dychwelodd at Gwmni Cenedlaethol Cymru yr haf diwethaf (2010) mewn cynhyrchiad o Die Meistersinger von Nurnberg gan Wagner gafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid.

Rhys Walters

Rhys Walters

Gitâr

Gitarydd ac athro ydy Rhys sydd â diddordeb mawr ym mhob agwedd cerddoriaeth gitâr – o’r gitâr drydanol i’r clasurol, a sawl genre. Cychwynnodd ei astudiaethau yn Ne Cymru ar y gitâr drydan a chlasurol, ac yna bu’n astudio ym Mhrifysgol Bangor lle gwblhaodd ei radd BA a Meistr mewn cerddoriaeth. Tra yn y brifysgol, canolbwyntiodd yn bennaf ar berfformio, gan astudio sawl arddull – roc a metel, bandiau jas, acwstig a gwerin, yn ogystal â cherddoriaeth glasurol unawdol. Caiff yr amrywiaeth yma ei adlewyrchu o ei arddull dysgu – gan olygu ei fod yn medru cynnig hyfforddiant i ystod eang o gitarwyr. Ers graddio mae Rhys wedi bod yn diwtor gitâr i Brifysgol Bangor gan hyfforddi myfyrwyr gitâr drydan sy’n astudio tuag at graddau BA a Meistr. Mae’n gyfarwydd â byrddau arholi’r ABRSM a Rock School. Os ydych chi’n rhoi cynnig ar y gitâr am y tro cyntaf, yn chwarae yn eich amser hamdden ac eisiau gwella eich sgiliau, neu ar siwrne academaidd ac yn dymuno gweithio tuag at ennill cymwysterau, bydd Rhys yn hapus i’ch helpu.

Sian Gibson

Sian Gibson

Canu

Cafodd Siân ei magu ym mhentref Deiniolen ger Caernarfon, ardal sydd â thraddodiad cerddorol cryf yn perthyn iddi, ac yn fuan iawn daeth i amlygrwydd fel cantores ar lwyfan yr Eisteddfodau. Cwblhaodd ei haddysg gerddorol yng ngholeg Cerdd Manceinion gan ennill sawl Ysgoloriaeth. Bu’n aelod o gwmnïau opera D’oyly Carte ac Opera North yn Leeds, a chwaraeodd nifer o rannau operatig blaenllaw. Dychwelodd i Opera North i recordio rhan Fenws gyda chwmni D’Oyly Carte ar label Sony. Ar hyn o bryd mae Siân yn canolbwyntio ar waith Oratorio a chyngerdd, ac mae’n rhoi gwersi canu yn ei chartref ger Caernarfon ac yng Ngholeg Menai. Mae’n fam i ddau o blant, Catrin a Siôn.

Sian Wheway

Sian Wheway

Canu

Yn wreiddiol o Fetws yn Rhos, graddiodd Siân o Goleg Prifysgol Bangor gan astudio o dan yr Athro William Mathias, oedd yn diwtor personol iddi am gyfnod. Wrth ddilyn cwrs gradd, y piano a’r llais oedd ei phrif feysydd astudiaeth ymarferol. Wedi 4 mlynedd o ddysgu cerddoriaeth yn y sector uwchradd aeth ymlaen i astudio ar gwrs Ôl-radd yn y Celfyddydau Perfformio yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ers hynny mae gyrfa Siân wedi bod yn un amrywiol gan gynnwys perfformio, cyfansoddi, sgriptio, ymchwilio a chyflwyno mewn swyddi yn y BBC a HTV yng Nghaerdydd, cyn symud yn ôl i fyw i’r Gogledd ym 1990 a chael gwaith fel is-gynhyrchydd rhaglenni adloniant ysgafn yng Nghwmni Teledu’r Tir Glas yng Nghaernarfon. Ers 1994 bu Siân yn un o gyfarwyddwyr cwmni Teledu Gwdihw yn cynhyrchu rhaglenni dogfennol, adloniant ysgafn a cherddoriaeth i S4C a’r BBC yn bennaf. Bu hefyd yn cynhyrchu rhaglenni adloniant ar gyfer Radio Cymru. Yn y flwyddyn 2000 sefydlodd RYGARUG gyda’i gwr, sef cynllun celfyddydau perfformio i bobol ifanc Dyffryn Peris a’r cylch ac yn ystod y cyfnod hwn, cynhyrchwyd 4 sioe gerdd yn Theatr Seilo, Theatr Gwynedd a Galeri Caernarfon. Enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru ym 1983 ac mae hi’n dal i gyfansoddi nifer fawr o ganeuon. Bydd nifer o’i gweithiau mwyaf diweddar yn cael eu cyhoeddi yn ystod 2015. Bu Siân yn arweinydd Côr Eryri o 1999 hyd at 2010 ac ers Ebrill 2013, hi ydy Cyfarwyddwr presennol Côr Dre, sef côr SATB o ardal Caernarfon a’r cyffiniau. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae Côr Dre wedi bod yn brysur iawn yn cynnal cyngherddau ac yn recordio yn Stiwdio Sain, yn ogystal â chael llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Powys ac eisteddfodau eraill ynghyd a chipio teitl Côr yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Derry. Mae Sian wedi bod yn diwtor yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ers 2003 yn dysgu piano, canu a theori cerddoriaeth.

Steven Evans

Steven Evans

Piano
Teleri-Siân

Teleri-Siân

Piano

Cafodd Teleri-Siân ei gwersi piano cyntaf gan ei thad yn dair oed, ac roedd wedi dechrau perfformio yn gyhoeddus ymhen blwyddyn.
Tra roedd yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd ymunodd âg adran iau Coleg Cerdd Frenhinol y Gogledd ym Manceinion, lle parhaodd i astudio llawn amser, yn graddio yn 2000, wedi derbyn Gwobr Goffa Marjorie Clementi. Mae wedi teithio i sawl gwlad Ewropeaidd, Hong Kong ac America fel unawdydd, yn ogystal â lleoliadau ledled Prydain. Mae hi yn mwynhau perfformio yn gyson fel datgeiniad ac unawdydd consierto ac yn diwtor piano ym Mhrifysgol Bangor, adran iau Coleg Cerdd Frenhinol y Gogledd a Chanolfan Gerdd William Mathias.
Mae gan Teleri-Siân hefyd radd Meistr mewn Ieithoedd Modern o Brifysgol Manceinion.

Tim Ward

Tim Ward

Canu a Piano Darllen Mwy
Tim Ward

Tim Ward

Canu a Piano

Mae Tim yn addysgwr, canwr a phianydd gyda phrofiad helaeth. Mae ei ddiddordeb mewn addysgeg ynghyd ag agwedd sensitif at ddysgu strwythuredig wedi galluogi cenhedlaeth o gerddorion ifanc i gyflawni eu potensial.

Derbyniodd Tim ei hyfforddiant yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall ac ar ôl graddio, aeth ymlaen i gwblhau Cwrs Opera. Ymhlith ei athrawon mae David Pollard a’r soprano o fri rhyngwladol Nelly Miricioiu. Tra’n fyfyriwr, derbyniodd Tim wobrau hael gan S4C ac Ymddiriedolaeth Pantyfedwen ac enillodd Ysgoloriaeth David Lloyd hefyd.

Yn ei yrfa gynnar, perfformiodd Tim fel unawdydd mewn lleoliadau uchel eu parch yn Llundain, gan gynnwys St John’s Smith Square a The Barbican, gan weithio ochr yn ochr â cherddorion blaenllaw. Mae hefyd wedi rhoi cyngherddau yn yr Eidal, yr Almaen a Gwlad Groeg.

Yn 2003, cafodd Tim y cyfle i ddysgu, yn gyntaf mewn ysgol heriol yng nghanol dinas Llundain lle cyflwynodd nifer o blant i lawenydd a phosibiliadau creu cerddoriaeth. Enillodd enw da am sylwi ar dalent posibl ac enillodd rhai o’i ddisgyblion ysgoloriaethau cerdd a llefydd mewn conservatoires blaenllaw. Yn dilyn y profiad hwn, daeth Tim yn frwd dros roi cyfle i gerddorion ifanc o gefndiroedd llai breintiedig astudio cerddoriaeth. Ef oedd sylfaenydd SCALE Vocal Trust, elusen sy’n cynnig cymorth ariannol i gantorion ifanc sy’n paratoi ar gyfer astudiaeth conservatoire.

Yn 2007, ymunodd â staff addysgu University College School, un o ysgolion annibynnol mwyaf blaenllaw Llundain. Bu ei ymrwymiad i ddatblygu cerddoriaeth leisiol yn yr ysgol yn ddiflino ac enillodd iddo enw fel athro ysbrydoledig a helpodd nifer o disgyblion i gyflawni llwyddiant mawr. Daeth yn Bennaeth Canu ac aeth llawer o’i fyfyrwyr ymlaen i sicrhau llefydd mewn prifysgolion ac conservatoires blaenllaw. Ymhlith llwyddiannau nodedig eraill disgyblion mae rolau plant yn y Tŷ Opera Brenhinol a’r Barbican ynghyd â darllediadau Radio 3 ac ymddangosiadau teledu.

Yn 2021 symudodd Tim i’w ardal enedigol yn Eryri lle mae’n gobeithio rhannu ei sgiliau a’i brofiad gyda’r genhedlaeth nesaf o gerddorion.