Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiad

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi bod.

Iwan Llewelyn-Jones yn sgwrsio gyda’r offerynnydd taro Dewi Ellis Jones

27 Hydref, 2020 @ 8:00pm

Yr wythnos hon bydd Iwan Llewelyn-Jones yn sgwrsio efo ein tiwtor offerynnau taro Dr Dewi Ellis-Jones. Enillodd Dewi Ddoethuriaeth mewn Perfformio a Chyfansoddi o Brifysgol Bangor, ar ôl astudio gyda Simone Rebello, Dr Pwyll ap Sion a’r byd enwog Y Fonesig Evelyn Glennie. Yn ogystal a dilyn gyrfa lwyddiannus fel perfformiwr a thiwtor offerynnau taro mae Dewi hefyd yn rhedeg cwmni TARO (www.tarodrums.com) gan adeiladu drymiau a ffyn arbenigol a’u gwerthu i gerddorion o bob cwr o’r DU ac Ewrop.

Bydd cyfle i glywed Dewi yn perfformio ar ddrwm o’i wneuthuriad ei hun yn ystod y sgwrs. Gallwch wylio y sgwrs ddifyr hon ar ein gwefan o 8pm nos Fawrth y 27ain o Hydref: www.cgwm.org.uk/cyngherddau-ar-lein/

Manylion

Dyddiad:
27 Hydref, 2020
Amser:
8:00pm

Lleoliad

Doc Victoria
Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ United Kingdom