Camau Cerdd

Mae Camau Cerdd yn brosiect a gynhelir mewn partneriaeth rhwng Canolfan Gerdd William Mathias a’r cerddor Marie-Claire Howorth.

Mae’r dosbarthiadau wedi eu llunio’n ofalus gan Marie-Claire er mwyn rhoi’r cychwyn gorau posib a sylfaen cerddorol cadarn i’ch plentyn.

Credwn bod gan addysg gerddorol y gallu i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu, deallusrwydd emosiynol, cydsymud, y cof a sgiliau cymdeithasol eraill ynghyd â bod yn llesol i’r ymennydd a’r corff.

Sesiynau Blasu am ddim yn ystod Gwyliau’r Pasg!

Cofrestrwch yn fan hyn ar gyfer sesiynau blasu am ddim Camau Cerdd yn ystod Gwyliau’r Pasg 2024.

Llanuwchllyn: 2 Ebrill 2024, 10:30am-11:30am, Neuadd Llanuwchllyn. Cofrestru Nawr!

Talsarnau: 2 Ebrill 2024, 2:00pm-3:00pm, Neuadd Talsarnau ger Harlech. Cofrestru Nawr!

Grwpiau Camau Cerdd

Camau Cyntaf

I blant 6mis-4oed a’u rhiant/ gofalwr

Edrychwn ymlaen at gychwyn ar y daith gyda chi a’ch plentyn wrth fynd ati i archwilio eu byd cerdd newydd.

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o offerynnau cerddorol, sol-ffa, caneuon a gemau rhythm yn ystod y sesiynau.

Yn ystod yr oedran yma, mae dychymyg a synnwyr o hunaniaeth eich plentyn o fewn i’w cylch cymdeithasol yn datblygu. Un o’r cyfnodau gwerthfawr i’w trysori yn ystod yr oedran hwn yw pan fydd eich plentyn yn cychwyn siarad a chanu, mae hyn yn amser gwych i gychwyn adeiladu ar sgiliau iaith a’r cof yn ogystal â’ch perthynas efo’ch plentyn.

Camau Cyntaf: Penrhosgarnedd

I blant 6 mis – 4 oed
Boreuau Gwener ym Mhenrhosgarnedd.
Gweler y ffurflen gofrestru am y manylion llawn.

Camau Nesaf

Wedi ei anelu at blant 4 – 7 mlwydd oed

Bydd Camau Nesaf yn gosod sylfaen cadarn cerddorol i’ch plentyn a fydd o gymorth unwaith y byddent yn barod i fynd ati i gychwyn gwersi offerynnol.

Archwiliwn elfennau pwysig cerddoriaeth gan ddefnyddio gemau, canu, a chwarae offerynnau megis y recorder, allweddellau ac amrywiaeth o offerynnau taro.

Byddwn hefyd yn defnyddio sol-ffa, gweithgareddau rhythm, a symud mewn ymateb i gerddoriaeth. Bydd eich plentyn yn cychwyn dysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu cerddoriaeth ynghyd ag adeiladu ar eu sgiliau sain clust mewn modd creadigol, dychmygus a llawn hwyl.

Dilynwn themâu megis Y Gerddorfa, Cerddoriaeth o amgylch y Byd, Y Planedau, Cerddoriaeth Ffilm, Arwain a llawer mwy drwy gydol y flwyddyn.

Camau Nesaf: Caernarfon

I blant 4-7 oed
5.15 – 5.55pm prynhawniau Iau yn Galeri.
Gweler y ffurflen gofrestru am y manylion llawn.

Llefydd yn gyfyng – rhaid archebu eich lle o flaen llaw.

Tiwtoriaid Camau Cerdd

Marie-Claire Howorth

Marie-Claire Howorth

Elin Taylor

Elin Taylor

Charlotte Pulsford

Charlotte Pulsford

Lluniau

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.