Newyddion
Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil
Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...
O Dresden i Dregaron
Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...
Desmond y pensiynwr cerddorol yn graddio gyda’r sielo ar ôl bwlch o hanner canrif
Mae pensiynwr cerddorol wedi ychwanegu llinyn arall at ei fwa trwy basio ei arholiad sielo gradd 8 yn 74 oed. Rhoddodd Desmond Burton y gorau i chwarae’r offeryn yn blentyn ond penderfynodd ailafael ynddo hanner canrif yn ddiweddarach ar ôl ymddeol o’i swydd fel...
Penddelw Beethoven mwyaf y byd yn syfrdanu
Mae penddelw enfawr o Beethoven yn syfrdanu ymwelwyr â chanolfan gelfyddydau - ac yn anelu i dorri record. Credir mai’r cerflun pȃpier-maché a phren enfawr yn Galeri yng Nghaernarfon yw’r cerflun mwyaf yn y byd o ben y cyfansoddwr nodedig. Gwnaed y model enfawr, sy’n...
Y meistr piano Llŷr Williams yn un o’r prif berfformwyr mewn gŵyl arbennig
Bydd y pianydd byd-enwog Llŷr Williams yn un o’r prif artistiaid mewn cyngerdd rhithwir mewn gŵyl arbennig. Bydd y meistr piano o Wrecsam yn perfformio gweithiau gan Beethoven, Chopin a Schubert ar biano Steinway newydd syfrdanol ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru....
Charli Britton
Gyda thristwch mawr y clywsom am farwloaeth Charli Britton. Gwnaeth Charli gyfraniad aruthrol i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg fel drymiwr y banc roc Edward H Dafis a sawl band arall. Rydym yn hynod ddiolchgar iddo am rannu ei angerdd a’i arbenigedd gyda dwsinau o...
Adroddiad Blynyddol Ebrill 2019 – Mawrth 2020
Bu 2019-2020 yn flwyddyn brysur arall i CGWM a braf oedd cael dathlu ugain mlynedd ers i’r Ganolfan agor ei drysau trwy wahodd rhai o’n cyn-ddisgyblion a’n disgyblion presennol i nodi’r achlysur mewn cyngerdd arbennig yn Galeri. Lawrlwytho'r Adroddiad
Llwyddiant ein Diwrnod Piano Rhithiol
Ar ôl y Diwrnod Piano hynod lwyddiannus y llynedd roeddem yn benderfynol o beidio â gadael i’r sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ein trechu, felly dyma ni’n trefnu Diwrnod Piano ar-lein eleni. Roedd yr ymateb yn galonogol iawn gyda 65 o berfformiadau gan bianyddion o...
Osian Ellis (1928-2021)
Trist yw cofnodi marwolaeth y telynor a’r ysgolhaig, Osian Gwynn Ellis yn 92 oed. Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith a chenhadaeth Canolfan Gerdd William Mathias a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru. Brodor o Ffynnongroyw, Sir y Fflint ydoedd ond fe’i magwyd yn...
Newid i ddosbarthiadau ar-lein yn galluogi telynores flaenllaw i ddysgu disgybl 7,500 milltir i ffwrdd ym Mhatagonia
Mae newid i ddosbarthiadau ar-lein oherwydd argyfwng Covid-19 wedi galluogi canolfan gerddoriaeth nodedig yng ngogledd Cymru i ddarparu gwersi ledled y byd. Ymhlith y tiwtoriaid yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, sydd â chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a...
Covid-19: Diweddariad Hydref 2020
Ar ôl dros 6 mis o beidio cynnal gweithgareddau wyneb i wyneb rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod gwersi un i un wyneb i wyneb wedi ail gychwyn yn ein canolfannau yn Galeri Caernarfon, Dinbych a Rhuthun ar gyfer y tiwtoriaid a’r disgyblion sy’n dymuno dychwelyd wyneb...
Fideo Canfod y Gân yn ystod y Cyfnod Clo
https://youtu.be/nEa1Novc0Po Mae grŵp cerddorol sydd wedi bod yn achubiaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Ngwynedd yn y cyfnod clo wedi lansio fideo newydd gyda chymorth sêr o fyd cerddoriaeth. Yn perfformio gydag aelodau, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr oedd yn ymwneud â...